Hafan > Disgyblion > Dewiniaid Digidol
Dewiniaid Digidol
Beth yw y Dewiniaid Digidol?
Mae’r Dewiniaid Digidol yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu TGCh ar draws yr ysgol. Plant Blwyddyn 5 a 6 ydi’r Dewiniaid Digidol. Mae ganddynt rôl bwysig i hyrwyddo e-ddiogelwch o fewn yr Ysgol. Maent yn dda iawn gyda sgiliau TGCh ac yn barod i ddangos eu sgiliau i eraill a helpu disgyblion iau ac yn enwedig disgyblion Cyfnod Sylfaen yr Ysgol. Yn ystod y flwyddyn bydd y Dewiniaid Digidol yn cynnal diwrnod codio a gwasanaeth Ysgol gyfan ar Ddiwrnod Diogelwch y We.
Aelodau / Members
Guto
Ella
Harper
Olivia
Beth fydd y Dewiniaid Digidol yn ei wneud?
· Sicrhau fod pawb yn hapus wrth ddefnyddio TGCh
· Rhannu sgiliau TGCh
· Helpu plant Cyfnod Sylfaen gyda sgiliau TGCh – microbit, codio, apiau gwahanol
· Dangos i blant blwyddyn 2 sut i ddefnyddio TT Rockstars
· Trefnu Diwrnod Codio
· Cynnal gwasanaeth Diwrnod Diogelwch y We i’r Ysgol gyfan
· Creu holiadur sgiliau i’r disgyblion