Hafan > Disgyblion > Llysgenhadon Chwaraeon

Llysgenhadon Chwaraeon

Beth yn union yw Llysgenhadon Chwaraeon?

Mae’r Llysgenhadon Chwaraeon yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu Chwaraeon ar draws yr ysgol.

Maent yn :

  • gweithio gyda disgyblion Iau mewn sesiynau Addysg Gorfforol / Chwaraeon.
  • sicrhau bod offer ymarfer corff wedi eu storio yn daclus yn y storfa offer.
  • pwmpio pêli troed, rygbi a phêli rhwyd.
  • cysylltu â busnesau / enwogion y byd Chwaraeon er mwyn trefnu sesiynau chwaraeon / sgyrsiau gyda disgyblion.
  • trefnu cystadlaethau / twrnamaint yn yr Ysgol.

Rhinweddau’r Llysgenhadon :

Mae’r Llysgenhadon Chwareon wedi dangos diddordeb â thalent mewn llawer o feysydd Chwaraeon. Maent yn ogystal wedi dangos eu bod yn medru arwain disgyblion eraill tra yn chwarae mewn tîmau. Maent yn fodel rôl cadarnhaol sydd yn barod i ddangos esiampl dda i eraill yn y maes Chwaraeon.

Aelodau 2024 / 2025 :

Caron
Owi
Moi
Dyddgu

4 o Llysgenhadon chwaraeon