Hafan > Disgyblion > Cyngor Ysgol
Cyngor Ysgol
Croeso i dudalen Y Cyngor Ysgol, Ysgol Bro Gwydir
Beth yw cyngor ysgol?
Grwp o ddigyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd gymryd rhan a threfnu prosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio yn ogystal a thrafod syniadau ar sut i weithredu Cynllun Datblygu’r Ysgol orau yn ogystal â chyfrannu barn tuag at gyfarfodydd llywodraethu a phenodiadau staff.
Byddem yn trafod unrhyw faterion sydd wedi codi, syniadau art sut i wella’r ysgol a threfnu unrhyw ddigwyddiadau.
Bydd Cyngor Ysgol Bro Gwydir yn:
-
Lais i holl blant yr ysgol
-
Parhau i wella ein hysgol
-
Helpu i gadw’r ysgol yn iach a diogel
-
Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
-
Rhoi cyfle i bawb rannu syniadau
-
Trafod syniadau newydd
-
Casglu arian er mwyn helpu elusennau
-
Trefnu digwyddiadau i gasglu arian tuag at adnoddau newydd i’r ysgol er mwyn hybu iechyd a lles ein disgyblion
-
Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol.