Hafan > Disgyblion > Cyngor ECO
Cyngor ECO
Beth yw’r Cyngor Eco?
Grŵp o ddisgyblion yr ysgol yw’r Cyngor Eco ysgol sydd yn cael eu hethol i gynrychioli llais a barn yr holl ddisgyblion er mwyn edrych ar ôl amgylchedd yr ysgol.Mae pob blwyddyn o flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 6 wedi ethol dau gynrychiolydd i eistedd ar yr Eco Bwyllgor. Mae ganddynt rôl bwysig yn hybu ein hysgol i fod yn wyrdd. Aelodau Cyngor Eco Ysgol Bro Gwydir sy’n cynrychioli llais ein disgyblion. Maen nhw'n ddinasyddion egwyddorol gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Rydym yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor i gael trafodaethau ynglŷn â beth sydd angen i ni fel cyngor weithio arno ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ofalu am ein hamgylchedd a’n byd. Mae’r Cyngor Eco yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer yr ysgol gyfan.
Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwybod am y naw maes pwysig yma:
- Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Sbwriel
- Lleihau Gwastraff (e.e. ailgylchu)
- Ynni
- Dŵr
- Tir yr ysgol
- Bioamrywiaeth
- Trafnidiaeth
- Iechyd, Llesiant a Bwyd
Sut benderfynon beth i’w wneud yn ystod y flwyddyn?
Adolygiad amgylcheddol o’r ysgol - taith o gwmpas yr ysgol i weld beth oedd y Cyngor Eco yn gallu gwella ac i weld beth sydd yn dda. Wedyn dewison bwyntiau i wella yn y naw maes eco a gosod y rhain yn y cynllun gweithredu eco am y flwyddyn.

Ein Targedau y flwyddyn yma
- Lleihau sbwriel diangen
- Arbed Ynni – cofio diffodd trydan
- Ailddefnyddio , lleihau ac ailgylchu
- Arbed y defnydd o ddŵr
- Hybu dysgwyr i fod yn unigolion iach a lleihau defnydd o geir
- Dinasyddiaeth Fyd Eang
- Tir yr ysgol – plannu planhigion


