Credwn fod gwaith coed yn gyfrwng gwych i'r plant weithio gydag e, ond rwy'n siwr y bydd yn peri syndod i rai ohonoch glywed ein bod ni am ganiatáu i'r plant ddefnyddio offer go iawn fel morthwylion a llifau!
Hoffem gymryd y cyfle hwn i egluro pam ein bod ni o'r farn bod gwaith coed yn weithgaredd mor bwysig, ac i dawelu'ch meddyliau drwy egluro mai diogelwch y plant yw ein prif flaenoriaeth. Gweithgaredd arbennig iawn yw gwaith coed, un sy'n denu sylw plant ac yn cwmpasur holl feysydd dysgu a datblygu. Mae plant yn ymateb yn gadarnhaol i'r her, ac yn mwynhau gweithio â phren ac offer.
Bydd plant yn datblygu cydsymud corfforol, sgiliau symud bras a manwl, a chydsymud llaw a llygad. Byddant yn dysgu am gysyniadau mathemategol megis siapiau a mesur, ac yn datblygu sgiliau meddwl mathemategol. Yn ogystal, byddant yn datblygu eu dealltwriaeth o'r byd, trwy ddysgu am offer sylfaenol, yn dod i ddeall pren fel deunydd, ac yn cael y cyfle i weld nifer o gysyniadau gwyddonol fel olwyn yn troelli, sut mae defnyddio lifer i dynnu hoelen, neu ddril i greu twll mewn pren. Byddan yn ehangu eu geirfa gyda therminoleg newydd ac yn defnyddio iaith i fynegi syniadau ac i ddatrys problemau. Gall plant ddatblygu sgiliau gwneud marciau trwy lunio syniadau ar bapur a phren. Ond mae yna feysydd lle mae gwaith coed yn rhagori fel gweithgaredd.
Yn gyntaf, mae'n datblygu hunanwerth a hyder y plant. Mae'r profiad o weithio gydag offer i greu rhywbeth yn eu grymuso ac yn ffordd dda i ddatblygu agwedd rhagweithiol. Yn ail, mae gwaith coed yn dda iawn an ddatblygu sgiliau meddyliol plant - eu sgiliau creadigol a dychmygol, yr ogystal âu sgiliau datrys problemau a beirniadol. Mae pren yn gyfrwng sy'n gofyn am bob un o'r uchod!
Diogelwch yw ein blaenoriaeth ar bob adeg. Glynwn at ganllawiau diogelwch llym; e.e. mae'n rhaid i'r plant wisgo sbectol diogelwch ar bob achlysur, a bydd oedolyn yn goruchwylio'r llifo ar gymhareb 1:1. Wrth gwrs, nid yw'n bosib dileu'r holl elfennau peryglus - bydd yna ambell glais - ond er mwyn datblygiad y plant mae'n bwysig iddyn nhw ddysgu sut i reoli risg, a sut i ddiogelu eu hunain fel bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i ddelio â sefyllfaoedd o bob math.
Edrychwn ymlaen at ddangos yr hyn mae eich plant wedi ei greu i chi - ond cofiwch mai'r peth mwyaf pwysig yw'r sgiliau sy'n datblygu y tu mewn i'ch plentyn! Holwch aelod o staff os oes unrhyw gwestiynau gennych chi.


