Hafan > Disgyblion > Llysgenhadon Lles

Llysgenhadon Lles

Beth yn union yw Llysgenhadon Lles?

Mae’r Llysgenhadon Lles yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu lles ar draws yr ysgol. Mae ganddynt ffocws benodol ar wrth-fwlio, iechyd meddwl a diogelwch ar-lein. Byddent yn codi materion gyda’r uwch-dîm a’r llywodraethwyr ac yn gweithredu ar unrhyw gonsyrn. Bydd y Llysgenhadon Lles yn trafod syniadau ar sut i weithredu’r Cynllun Datblygu a bydd munudau o bob cyfarfod yn cael eu cofnodi.

Rhinweddau’r Llysgenhadon

Mae Llysgenhadon Lles yn ddisgyblion sydd wedi dangos diddordeb arbennig mewn hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Mae’r disgyblion hyn yn awyddus i rannu eu dysgu ynghylch iechyd meddwl a hysbysebu pwysigrwydd hunanofal. Maent yn meddu ar agwedd agored ac anfeirniadol ac yn mabwysiadu dull cadarnhaol ac amyneddgar gyda disgyblion yr ysgol. Maent yn fodel rôl cadarnhaol sydd bob amser yn barod i wrando.

Aelodau

Eldra Humphreys
Aila Mabli
Gwenno Jones
Ioan Jones
Jo Raloka
Gethin Jones
Harper Hughes
Siwan Anderson
Cadi Thomas-Jones

Beth fydd y Llysgenhadon Lles yn ei wneud?

  • Sicrhau fod pawb yn hapus o fewn cymuned Ysgol Bro Gwydir
  • Rhannu pegiau positif
  • Cyd-weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru – mynychu cyfarfodydd dros y we
  • Rhannu eu hamcanion yn y gwasanaethau
  • Creu Calendr Cyfeillgarwch
  • Rhannu negeseuon positif ac ysbrydoledig gyda rhieni a chymuned Bro Gwydir
  • Cynorthwyo gyda threfniannau Gwener Gwerth y Byd
  • Trefnu diwrnod Meddylfryd Twf
  • Dadansoddi data holiaduron lles