Hafan > Disgyblion > Llysgenhadon yr Iaith Gymraeg
Llysgenhadon yr Iaith Gymraeg
Erbyn 2050, mae Senedd Cymru wedi gosod targed i godi nifer o siaradwyr Cymraeg ein gwlad i 1 miliwn. Fel rhan o’r cynllun yma mae Ysgolion Cymru wedi ymrwymo i gynllun y ‘Siarter Iaith’. Nôd y cynllun yw i annog y defnydd cymdeithasol a’r mwynhad o’r Gymraeg mewn ysgolion ar draws Cymru. Fel rhan o’r cynllun mae gan bob ysgol eu targedau unigol ac mae pawb sy’n rhan o gymuned yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i hybu’r taregdau yma.
Fel rhan o flaenoriaethau yr ysgol y flwyddyn yma ein nôd yw:
Codi safonau'r Iaith Gymraeg ar draws yr ysgol yn ogystal â datblygu angerdd a balchder o Gymru a Chymreictod.
Dyma bwyllgor o blant yr ysgol sydd yn teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg a Chymreictod. Mae’r Llysgenhadon yn cyfarfod er mwyn trafod syniadau. Ein bwriad yw bod pob plentyn yn dewis siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a thu hwnt. Y gobaith yw bod pob plentyn yn ymfalchïo yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig. Mae siarad dwy iaith yn agor drysau i gymuned , byd gwaith a bywyd cymdeithasol llawer mwy amrywiol. Mae dwy iaith yn golygu dwywaith y dewis
Amcanion
- Sicrhau fod holl rhanddeiliad yr ysgol yn ymwybodol o’n gweledigaeth
- Codi proffil y defnydd o’r Gymraeg o gwmpas yr ysgol.
- Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg tu allan i’r ysgol
- Mae gennym gynllun datblygu clir ar gyfer hyrwyddo’r siarter.
- Rydym yn defnyddio’r gwaelodlin fel man cychwyn i asesu effaith.
- Ennyn balchder yn yr iaith gymraeg ac am Gymru.
Sut?
Rydym yn:-
- Dathlu ac annog.
- Mae’r Cyngor yn chwarae gemau buarth drwy’r gymraeg gyda phlant iau yr ysgol.
- Defnyddio’r cymeriad ‘Fflam y Ddraig’ drwy’r ysgol.
- Hyrwyddo gweithgareddau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth e.e. Eisteddfod.
- Annog y defnydd o raglenni cymraeg amser egwyl, cerddoriaeth gymraeg ar y coridorau.
- Creu adnoddau cymraeg i gefnogi staff di-gymraeg e e yn y neuadd ginio
- Ymwelwyr e.e. celf, cerddoriaeth, barddoniaeth, chwaraeon.
- Defnyddio technoleg ddigidol.
Ymfalchïwn yng nghymreictod a diwylliant ein hardal leol ac ymrwymwn i ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg.